Dilwyn Llwyd sy’n arwain y grŵp Yucatan, ac maent bellach wrthi ers tua saith mlynedd.
Cynhyrchwyd eu halbwm cyntaf yn stiwdio Sigur Ros yn Reykjakik, a does dim amheuaeth fod y grŵp syfrdanol hwnnw o Wlad yr Iâ wedi dylanwadau’n drwm ar sŵn Yucatan.
Maent yn cyfuno sŵn gitars gyda llinynnau clasurol i greu haenau o sŵn sy’n adleiladu’n raddol i gampwaith epig a chofiadwy.
Rhyddhawyd albwm cyntaf Yucatan, sy’n rhannu enw’r grŵp, yn 2007 gyda’r EP Enlli yn dilyn yn 2010.
Bydd eu sŵn llawn yn siŵr o swnio’n arbennig yn y pafiliwn anferth ym Mhontrhydfendigaid.
Dilyna @hannercant am y wybodaeth ddiweddaraf
Gyrra wahoddiad i dy ffrindiau i’n digwyddiad Facebook
Cwestiynau? Ebostia helo@hannercant.com