Criw o hogiau ifanc a brwdfrydig o ardal Felinheli a Chaernarfon ydy Y Saethau. Fe’i ffurfiwyd yn Awst 2009, ac yn fuan iawn roedden nhw’n profi llwyddiant mewn cystadlaethau Brwydr y Bandiau amrywiol.
Mae dylanwadau Y Saethau’n amrywio o Mumford and Sons a Bob Delyn a’r Ebillion i Blink 182 a Red Hot Chilli Peppers.
Er bod yr hogiau dal yn ifanc, maen nhw’n dechrau creu argraff ac mae dyfodol disglair iddyn nhw.
Dilyna @hannercant am y wybodaeth ddiweddaraf
Gyrra wahoddiad i dy ffrindiau i’n digwyddiad Facebook
Cwestiynau? Ebostia helo@hannercant.com