Ymddangosodd y grŵp yma’n wreiddiol dan yr enw Crazy Mountain People, gan chwarae eu gig cyntaf yng Ngŵyl Gwydir yn Llanrwst ym Medi 2009 gan chwarae rhai gigs dan yr enw ar ôl hynny.
Ailymddangosodd y triawd o Benmachno ar ddechrau 2011, a rhyddhawyd eu EP cyntaf Pen Rhydd ym mis Ebrill y flwyddyn honno. Cafodd yr EP dderbyniad da a chafodd Sen Segur gyfle i deithio i bump lleoliad ym mhob cwr i Gymru fel rhan o leinyp taith Slot Selar gyda Creision Hud a Trwbador, gan sefydlu eu hunain fel un o grwpiau ifanc mwyaf cyffrous y sin.
Mae eu synau seicadelig yn atseinio o ddylanwad grwpiau fel Ffa Coffi Pawb, Y Cyrff a Jen Jeniro.
Dilyna @hannercant am y wybodaeth ddiweddaraf
Gyrra wahoddiad i dy ffrindiau i’n digwyddiad Facebook
Cwestiynau? Ebostia helo@hannercant.com