
Cynhelir Hanner Cant ym mhafiliwn enwog Pontrhydfendigaid (neu Bont, fel mae’n cael ei adnabod). Bu sawl gig hanesyddol yn y pafiliwn enfawr yng nghanol y pentref, yn cynnwys Twrw Tanllyd yn y 70au ac 80au, Rhyw Ddydd Un Dydd yn 1991 a Noson Claddu Reu yn 1992. Fyddwn ni’n meddiannu Pafiliwn Bont a Neuadd y Pentref am y penwythnos, er mwyn cynnig tri llwyfan o gerddoriaeth fyw di-dor (a bydd popeth dan do!).
Mae’r pafiliwn yng nghanol pentref Pontrhydfendigaid, gogledd Ceredigion, tua 15 milltir o Aberystwyth, 5 milltir o Dregaron neu 17 milltir o Lambed.
Bydd bws i Bont yn gadael am 11 fore Sadwrn o Goedlan y Parc, Aberystwyth. (Gallwch ddefnyddio bws cyhoeddus i gyrraedd ar y nos Wener – gweler isod).
Bydd bws yn ôl i Aberystwyth am 2yb nos Wener a nos Sadwrn.
Os wyt ti’n trefnu bws i’r ŵyl gad i ni wybod er mwyn rhannu’r wybodaeth yma.
Plis gwna pob ymdrech i deithio ar fws neu i rannu car gydag eraill (os nag oes bws yn mynd o dy ardal di, beth am drefnu un?).
Y côd post ar gyfer llywio lloeren ydi SY25 6BB, ond dilyna’r cyfarwyddiadau i’r maes parcio cywir os gweli di’n dda.
O’r gogledd
Ar y ffordd allan o Aberystwyth tua’r de (arwyddion Aberteifi A487), yn fuan ar ôl rowndabowt Penparcau ar gyrion y dre, tro i’r chwith (Pontarfynach A4120) ac yna yn syth i’r dde (Trawsgoed B4340). Ar ôl tua 13 milltir fyddi di ym Mhontrhydfendigaid. Ceir cyffredinol: trowch i’r dde wrth yr arwydd ‘Croeso i Bontrhydfendigaid’. Bysys, artistiaid a chriw: ewch ymlaen tua 100 llath, a throwch i’r dde i fewn i’r pafiliwn yng nghanol y pentref, ar ôl y lle chwarae a Neuadd y Pentref.
O’r de
Ar y ffordd allan o Lanbedr-Pont-Steffan tua’r gogledd (Aberaeron A482), tro i’r dde (Tregaron A485). Ar ôl tua 10 milltir, yng nghanol Tregaron, cer syth ymlaen (Pontrhydfendigaid B4343). Ar ôl tua 5 milltir fyddi di ym Mhontrhydfendigaid. Bysys, artistiaid a chriw: trowch i’r chwith i fewn i’r pafiliwn yng nghanol y pentref, cyn Neuadd y Pentref. Ceir eraill: ewch ymlaen tua 100 llath, a throwch i’r chwith i fewn i’r maes parcio ar gyrion y pentref.
O’r dwyrain
O Langurig, dilyna’r A44 i gyfeiriad Aberystwyth. Ar ôl tua 12 milltir, tro i’r chwith ym Mhonterwyd (arwydd Pontarfynach A4120). Ychydig ar ôl pasio’r orsaf rheilffordd bach ym Mhontarfynach, tro i’r chwith (Pontrhydygroes B4343). Ar ôl tua 8 milltir fyddi di ym Mhontrhydfendigaid, gyda Neuadd y Pentref o dy flaen. Ceir cyffredinol: trowch i’r dde, a throwch i’r chwith ar ôl tua 100 llath i gyrraedd y maes parcio. Bysys, artistiaid a chriw: trowch i’r chwith ac i’r dde bron yn syth wedyn, i fewn i’r pafilwn.
Mae mynedfa ar gyfer ceir cyffredinol, a mynedfa gwahanol ar gyfer bysus, artistiaid a chriw. Am resymau diogelwch mae’n hollbwysig bod pawb yn anrhydeddu’r system hon. Bydd stiwardiaid maes parcio wrth law i hwyluso’r parcio.
Mae’r safle carafannau ar Fferm Dolebolion, SY25 6BJ (ryw 600 metr i ffwrdd — llai na 10 munud i gerdded). Trowch yng nghanol y pentref tuag at y Llew Du, gan ddilyn yr arwyddion symbol carafan.
Mae gwasanaeth bws cyhoeddus rhif T21 (Evans Coaches) yn rhedeg yn achlysurol o orsaf bws Aberystwyth. Mae’r daith yn cymryd tua 35-45 munud.
Aberystwyth–Pontrhydfendigaid
Dydd Gwener: 12:25, 14:05, 15:48 (o Morrisons), 17:40.
Dydd Sadwrn: 12:25, 14:05, 17:40.
Pontrhydfendigaid–Aberystwyth
Dydd Sadwrn: 09:18, 13:03, 16:45.
Dydd Sul: dim gwasanaeth.
Mae tacsi o Aberystwyth yn costio tua £25-35 yn dibynnu ar yr amser o’r dydd, hyd at tua £50 am fws mini. Bydd angen bwcio o flaen llaw fel arfer. Dyma rhai rhifau er gwybodaeth ond dydyn ni ddim wedi’u gwirio. Star Cabs (bwsys mini ar gael) 01970 625000. Aber Cars 01970 627272. Central 01970 626600. Ardaloedd eraill weddol agos: Caron Tregaron 01974 298652. R&T Talsarn 07794 045888. Tacsis Llambed 01570 423889.
Dilyna @hannercant am y wybodaeth ddiweddaraf
Gyrra wahoddiad i dy ffrindiau i’n digwyddiad Facebook
Cwestiynau? Ebostia helo@hannercant.com