Huw M ydy prosiect unigol y cerddor amryddawn Huw Meredydd Roberts, gynt o’r grŵp Chouchen.
Mae Huw yn llwyddo i blethu cerddoriaeth sy’n hanu o’r traddodiad gwerinol Cymreig gyda’r technegau electronig diweddaraf i greu sŵn unigryw sy’n hyfrydwch llwyr i’r glust.
Rhyddhaodd ei albwm cyntaf, Os Mewn Sŵn yn annibynnol yn 2009 cyn i label Gwymon ei ail-ryddhau yn 2010 -roedd yr albwm yn ail ar restr 10 uchaf albyms gorau’r flwyddyn yng nghylchgrawn Y Selar yn 2009.
Yn Nhachwedd 2011 cyhoeddwyd ail LP Huw M, sef Gathering Dusk ac roedd y croeso’r un mor wresog ag yr oedd gyda’r cyntaf.
Un o gerddorion mwyaf aeddfed a gwreiddiol y sin ar hyn o bryd.
Dilyna @hannercant am y wybodaeth ddiweddaraf
Gyrra wahoddiad i dy ffrindiau i’n digwyddiad Facebook
Cwestiynau? Ebostia helo@hannercant.com