“Rydym yn fand ska-funk o ardal Pen Llŷn ac wedi bod yn gigio’n gyson ers dros flwyddyn a hanner. Mae rhai o’n caneuon wedi cael eu chwarae ar Radio Cymru, a bûm yn chwarae yng Nghlwb Ifor Bach ac yn gig yr Eisteddfod Rhyng-golegol ychydig fisoedd yn ôl. Rydym yn chwarae ar lwyfan Maes B ar nos wener y 10fed o Awst. Mae chwech aelod yn y band, ac ein prif ddylanwadau yw bandiau fel Anweledig a Derwyddon Dr Gonzo.”
facebook.com/helyntionjosyficar
Dilyna @hannercant am y wybodaeth ddiweddaraf
Gyrra wahoddiad i dy ffrindiau i’n digwyddiad Facebook
Cwestiynau? Ebostia helo@hannercant.com