Mae tocynnau ar gael nawr am £30 mewn siopau ac ar y drws – manylion ar y dudalen tocynnau.
Mae croeso i deuluoedd yn yr ŵyl. Bydd mynediad am ddim i bob plentyn dan 13 oed gydag oedolyn sy’n talu. Gobeithiwn drefnu ardal chwarae i blant yn yr ŵyl, a bydd maes pebyll teuluol.
Bydd dewis o fwydydd cynnes ac oer ar gael i’w prynu ar safle’r pafiliwn dros y penwythnos. Mae siop fechan yng nghanol y pentref, Siop y Bont, sydd ar agor 7am-7pm Gwener, 7am-2pm Sadwrn, ac 8am-12:30pm Sul.
Dyw’r union amserlen ddim wedi cadarnhau eto, ond yn fras:
Dydd Gwener agor drysau 5pm, band cyntaf 6pm, gorffen tua 2am.
Dydd Sadwrn agor drysau 11am, band cyntaf canol dydd, gorffen tua 2am.
Oes! Bydd maes pebyll cyffredinol, a maes pebyll ar gyfer teuluoedd, yn agos iawn i’r pafiliwn. Bydd tâl bychan o £2.50 y pen y noson i wersylla, i’w dalu wrth gyrraedd y maes. Bydd y maes pebyll ar agor o 4pm ddydd Gwener i ganol dydd ddydd Sul.
Mae lle ar gyfer nifer cyfyngedig o garafannau mewn safle cyfagos. Bydd angen bwcio lle o flaen law, trwy yrru neges i helo@hannercant.com, a thalu £10 am y safle wrth gyrraedd. Mae toiledau ar y safle.
Bydd toiledau mewn llefydd amrywiol o gwmpas safle’r Pafiliwn a Neuadd Bentref Bont. Bydd cawodydd yn cael eu darparu gan Glwb Pêl-droed Bont fore Sadwrn a Sul.
Dyma rhestr o lefydd i aros yn yr ardal (dyw’r rhain ddim yn gysylltiedig â’r ŵyl a dydyn ni ddim wedi gwirio dim o’r manylion).
Edrycha ar ein tudalen gwybodaeth drafnidiaeth a lleoliad.
Mae’n bosib bydd camerâu fideo yn yr ŵyl — trwy fod yn bresennol rwyt ti’n cydsynio i fod yn rhan o’r recordiadau.
Dilyna @hannercant am y wybodaeth ddiweddaraf
Gyrra wahoddiad i dy ffrindiau i’n digwyddiad Facebook
Cwestiynau? Ebostia helo@hannercant.com