Ers mis Awst llynedd ry’n ni wedi bod yn cyhoeddi enwau artistiaid Hanner Cant fesul wythnos, ac erbyn hyn ni bron iawn â chyrraedd ddiwedd y daith!
Ond mae un slot ar ôl – a’r cyhoedd fydd yn dewis y band neu artist gaiff ei gyhoeddi fel Band 50.
Mae wyth ar y rhestr fer yn brwydro am y cyfle i agor dydd Sadwrn yr ŵyl ar y brif lwyfan.
Cliciwch ar yr enwau isod i ddarllen mwy amdanyn nhw, clywed trac, ac i bleidleisio dros un ohonynt!
Bydd y bleidlais yn cau nos Wener, Gorffennaf 6ed – wythnos cyn Hanner Cant. Bydd Sianel 62 yn cyhoeddi’r enillydd mewn rhaglen arbennig ar y nos Sul cyn yr ŵyl.
Dilyna @hannercant am y wybodaeth ddiweddaraf
Gyrra wahoddiad i dy ffrindiau i’n digwyddiad Facebook
Cwestiynau? Ebostia helo@hannercant.com