Gogwydd cyfoes ar gerddoriaeth werin, gydag uniad o alawon traddodiadaol ac arddulliau ac offerynnau cyfoes yn gyfeiliant i lais persain Lisa Jên.
Mae 9Bach wedi ennill clod ar draws y byd am eu hagwedd newydd at hen gerddoriaeth, gan berfformio mewn gwyliau rhyngwladol fel WOMAD a theithio ar draws Awstralia gyda cherddorion brodorol The Black Arm Band.
Bu Lisa hefyd yn teithio gyda Gruff Rhys a pherfformio ar Candylion.
Dilyna @hannercant am y wybodaeth ddiweddaraf
Gyrra wahoddiad i dy ffrindiau i’n digwyddiad Facebook
Cwestiynau? Ebostia helo@hannercant.com